Urdd Gobaith Cymru
   Swyddfa’r Urdd
     Ffordd Llanbadarn
       Aberystwyth
         Ceredigion
          SY23 1EY

        
Ffôn 01970 613110
      Ffacs 01970 626120
Ar y We:www.urdd.org

 


TOCYNNAU AM Y CYNGERDD AGORIADOL YN  GWERTHU’N SYDYN

Mae’r tocynnau ar gyfer cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni yn gwerthu’n sydyn. Mae trefnwyr yr Eisteddfod felly yn annog unrhyw un sy’n bwriadu mynychu’r gyngerdd i archebu eu tocynnau’n fuan rhag ofn iddynt gael eu siomi.

Cynhelir yr Eisteddfod yn nhref Ruthun yn Sir Ddinbych rhwng 29 Mai a 3 Mehefin.

Mae’r gyngerdd agoriadol, a gynhelir ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar faes yr Wyl ar dir Ysgol Brynhyfryd a fferm Maes Llan yn Rhuthun, yn deyrnged i’r gantores a chyfansoddwraig leol Caryl Parry Jones sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r byd adloniant yng Nghymru dros y blynyddoedd. Cynhelir y gyngerdd ar nos Sul, 28 Mai, am 7.00pm.

Bydd cast o sêr yn cymryd rhan yn y gyngerdd gan gynnwys y tenor rhyngwladol Rhys Meirion, y grwp poblogaidd, Eden, y ffefrynnau teledu Dewi Pws ac Emyr Wyn, y canwr Dafydd Dafis, côr o ddisgyblion lleol ac aelodau o’r ysgolion perfformio Anterliwt ac Ysgol Glanaethwy.

Meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Siân Eirian,

“Pa well ffordd o agor ein Prifwyl na thrwy sicrhau gwledd i’r llygad ac i’r glust gan rai o dalentau amlycaf Cymru, ac yn eu plith y tenor, Rhys Meirion. Mae cyfraniad Caryl Parry Jones i fyd adloniant yng Nghymru ym amhrisiadwy ac mae’r Urdd yn ymfalchio ein bod yn gallu llwyfannu noson unigryw sy’n ddathliad o’i gwaith a’i chreadigrwydd.”

Bydd Caryl Parry Jones, a fagwyd yn Ffynnongroyw rhwng Treffynnon a’r Rhyl, yn bresennol yn y gyngerdd ac mae’n edrych ymlaen at y noson.

Meddai,

“Pan glywais am y gyngerdd deyrnged ro’n i’n teimlo’n wylaidd iawn ac wrth fy modd i fod yn onest. Dwi bob amser yn dweud fy mod i mor lwcus fy mod yn gwneud yr hyn be dwi’n ei wneud. Dwi’n ennill fy mywoliaeth trwy wneud yr hyn dwi’n ei garu orau yn y byd. Bydd teulu a ffrindiau yn y gyngerdd ac rwy’n siwr y byddai’n teimlo’n eitha emosiynol.

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn rhoi hyder i bobol ifanc, a’r cyfle i werthfawrogi safon, a sut i golli efo urddas.”

Cynhelir dwy sioe arall ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Cyflwynir Plas Du gan ddisgyblion ysgolion uwchradd Sir Ddinbych. Cyfansoddwyd y sioe gerdd hon gan Hywel Gwynfryn ac Robat Arwyn, ac fe’i lleolir mewn plasty hynafol sy’n llawn ysbrydion a chyfrinachau. Byddwch yn barod i gael eich dychryn! Ymysg y cast talentog mae hen ffrind i’r Eisteddfod, Steffan Rhys Hughes, 12 oed, o Landyrnog, a ddaeth yn amlwg yn gyntaf ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd ac sydd bellach yn wyneb cyfarwydd ar hyd a lled Cymru. Perfformir Plas Du nos Sadwrn, 27 Mai, am 7.00pm.

Bydd disgyblion ysgolion cynradd y sir yn cyflwyno cynhyrchiad llawn cyffro am hynt a helynt yr arwr Cymreig, Owain Glyndwr. Cynhelir Glyndwr nos Fawrth 30 Mai, a nos Fercher 31 Mai am 7.00pm.

Unwaith eto, y cyngor ar gyfer y ddwy sioe gerdd yma yw, archebwch eich tocynnau’n fuan.

Gellir archebu tocynnau trwy’r Linell Docynnau ar 0845 2571 639, neu trwy wefan yr urdd – www.urdd.org

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Manon Wyn, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Urdd Gobaith Cymru, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, 01970 613115, manonwyn@urdd.org

Nodyn i’r Golygydd:

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw’r wyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop.
Bydd 40,000 o bobl ifanc yn cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau gan gynnwys llefaru unigol, corau, dawns, celf a chrefft, cyfansoddi a barddoniaeth.
Ar lwyfan yr Eisteddfod y gwnaeth sêr fel Bryn Terfel, Ioan Gruffudd, Cerys Matthews, Aled Jones, Shân Cothi a Daniel Evans fwrw eu prentisiaeth.
Mae’r Eisteddfod yn denu dros 100,000 o ymwelwyr, 15,000 o gystadleuwyr a bron i filiwn o wylwyr teledu.
Mae’r Eisteddfod yn cynnal rhaglen lawn o gystadlaethau yn ddyddiol rhwng 11.00 y bore hyd at 5.00 y prynhawn, a chystadlaethau gyda’r nos ar y nosweithiau Llun, Mercher, Gwener a Sadwrn.
Cynhelir Eisteddfod 2007 ar faes Sioe’r Tair Sir yng Nghaerfyrddin.
Cynhelir Eisteddfod 2008 yng Nghonwy.

View in English

 

Cadeirydd: Rhiannon Lewis    Prif Weithredwr: Efa Gruffudd Jones
Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig), Rhif Cwmni: 263310.  Cwmni Cyfyngedig.  Cofrestrwyd yng Nghymru.  Elusen Gofrestredig Rhif 524481